Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd/Zoom

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 15 Rhagfyr 2020

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
11126


311

------

<AI1>

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

Atebodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip y 5 cwestiwn cyntaf am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â’i chyfrifoldebau.

</AI2>

<AI3>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dechreuodd yr eitem am 14.48

</AI3>

<AI4>

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

Dechreuodd yr eitem am 15.07

NDM7527 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheolau Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7522, NNDM7525, NNDM7526 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 15 Rhagfyr 2020.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI4>

<AI5>

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

Dechreuodd yr eitem am 15.08

NDM7524 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheolau Sefydlog 12.20(i), 12.22 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7523 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 15 Rhagfyr 2020.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.09 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.

</AI5>

<AI6>

3       Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg: Cyhoeddi polisi cenedlaethol ar drosglwyddo'r Gymraeg a'i defnydd mewn teuluoedd - Gohiriwyd

Gohiriwyd yr eitem hon

</AI6>

<AI7>

4       Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Diwedd Cyfnod Pontio'r UE

Dechreuodd yr eitem am 15.19

</AI7>

<AI8>

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, cafodd eitemau 5-7 eu grwpio ar gyfer dadl, ond gyda phleidleisiau ar wahân.

</AI8>

<AI9>

5       Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020

Dechreuodd yr eitem am 15.49

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7512 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

9

13

52

Derbyniwyd y cynnig.

</AI9>

<AI10>

6       Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020

Dechreuodd yr eitem am 15.49

NDM7516 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2020.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI10>

<AI11>

7       Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020

Dechreuodd yr eitem am 15.49

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7526 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

8

5

52

Derbyniwyd y cynnig.

</AI11>

<AI12>

8       Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020

Dechreuodd yr eitem am 16.14

NDM7522 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2020.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI12>

<AI13>

9       Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a Mangre Sefydliad Addysg bellach) (Cymru) 2020

Dechreuodd yr eitem am 16.21

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7525 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a Mangre Sefydliad Addysg Bellach) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

12

52

Derbyniwyd y cynnig.

</AI13>

<AI14>

10    Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020

Dechreuodd yr eitem am 16.40

NDM7509 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2020.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI14>

<AI15>

11    Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020

Dechreuodd yr eitem am 16.44

NDM7508 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2020.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI15>

<AI16>

12    Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020

Dechreuodd yr eitem am 16.46

NDM7507 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2020.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI16>

<AI17>

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, cafodd eitemau 13-14 eu grwpio ar gyfer dadl, ond gyda phleidleisiau ar wahân.

</AI17>

<AI18>

13    Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020

Dechreuodd yr eitem am 16.49

NDM7511 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2020.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI18>

<AI19>

14    Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020

Dechreuodd yr eitem am 16.49

NDM7510 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2020.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI19>

<AI20>

15    Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020

Dechreuodd yr eitem am 16.57

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7506 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

9

5

52

Derbyniwyd y cynnig.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.00 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.

</AI20>

<AI21>

16    Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach - Gohiriwyd

Gohiriwyd yr eitem hon

</AI21>

<AI22>

17    Dadl: Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd

Dechreuodd yr eitem am 17.13

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7523 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 11 Rhagfyr 2020 ynghylch lefelau newydd o gyfyngiadau i ymateb i bandemig y coronafeirws yng Nghymru.

Datganiad Ysgrifenedig: Diweddaru’r cynllun rheoli COVID-19 yng Nghymru - 11 Rhagfyr 2020

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddetholwyd gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd i’r cynnig.

Gwelliant 3 Gareth Bennett (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod lefelau newydd y cyfyngiadau’n anghymesur ac yn niweidiol i fusnesau a bywoliaethau ar draws Cymru.

Cyd-gyflwynwyr

Mark Reckless

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

1

46

52

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 Gareth Bennett (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi dilyn strategaeth COVID-19 wahanol i un Llywodraeth y DU.

Cyd-gyflwynwyr

Mark Reckless

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

1

47

52

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddetholwyd gwelliant 5 a gyflwynwyd i’r cynnig.

Gwelliant 6 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r cyhoeddiad am lefelau rhybudd newydd yng Nghymru sy'n caniatáu ar gyfer rhoi cyfyngiadau ar waith ar lefel ranbarthol a lleol mewn ymateb i'r dystiolaeth wyddonol a'r gwahaniaethau o ran lefelau heintio coronafeirws mewn gwahanol rannau o'r wlad.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

9

52

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am sicrhau bod cyfyngiadau a chymorth ynysu yn adlewyrchu, cymaint â phosibl, y gwahanol lefelau parhaus o haint mewn gwahanol ranbarthau yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

32

52

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddetholwyd gwelliant 8 a gyflwynwyd i’r cynnig.

Gwelliant 9 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau manwl ar gyfer ailagor sectorau allweddol yn ddiogel fel lleoliadau lletygarwch, diwylliant a chwaraeon yn seiliedig ar ymgysylltu uniongyrchol rhwng cynrychiolwyr y sector a chynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

1

52

Derbyniwyd gwelliant 9.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7523 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 11 Rhagfyr 2020 ynghylch lefelau newydd o gyfyngiadau i ymateb i bandemig y coronafeirws yng Nghymru.

2. Yn croesawu'r cyhoeddiad am lefelau rhybudd newydd yng Nghymru sy'n caniatáu ar gyfer rhoi cyfyngiadau ar waith ar lefel ranbarthol a lleol mewn ymateb i'r dystiolaeth wyddonol a'r gwahaniaethau o ran lefelau heintio coronafeirws mewn gwahanol rannau o'r wlad.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau manwl ar gyfer ailagor sectorau allweddol yn ddiogel fel lleoliadau lletygarwch, diwylliant a chwaraeon yn seiliedig ar ymgysylltu uniongyrchol rhwng cynrychiolwyr y sector a chynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

1

5

52

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI22>

<AI23>

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, cafodd eitemau 18-19 eu grwpio gyda'i gilydd ar gyfer dadl ond gyda phleidleisiau ar wahân.

</AI23>

<AI24>

18    Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Dechreuodd yr eitem am 18.29

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7513 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Gosodwyd y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 6 Gorffennaf 2020.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gerbron y Senedd ar 4 Rhagfyr 2020.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddetholwyd gwelliant 1 a gyflwynwyd i’r cynnig.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

1

10

52

Derbyniwyd y cynnig.

</AI24>

<AI25>

19    Y Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Dechreuodd yr eitem am 18.29

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7514 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

8

6

52

Derbyniwyd y cynnig.

</AI25>

<AI26>

20    Cyfnod pleidleisio

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 19.49 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro er mwyn caniatáu egwyl technegol cyn y cyfnod pleidleisio.

Dechreuodd yr eitem am 19.58

</AI26>

 

<AI27>

</AI27>

 

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 20.09

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 16 Rhagfyr 2020

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>